Tŷ'r Cwmnïau'n cau am ddiwrnod
- Cyhoeddwyd
Roedd cannoedd yn gorfod gadael swyddfeydd fore Gwener am fod siel wedi ei ddarganfod yn y maes parcio.
Digwyddodd hyn am 8.30am.
Mae Tŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd wedi ei gau am weddill y diwrnod.
Cafodd yr Uned Ddifa Bomiau eu galw ond dywedodd y cwmni nad oedd y siel yn beryglus.