Morgannwg ymhell ar y blaen yn erbyn Sir Gaerlŷr
- Cyhoeddwyd

Mae Morgannwg ymhell ar y blaen yn erbyn Sir Gaerlŷr yn eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd.
Ar ddiwedd y trydydd diwrnod mae Caerlŷr 171 rhediad tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf y tîm cartref o 508.
Yn ogystal â sgoriau mawr Murray Goodwin (178), Mark Wallace (86) a Jim Allenby (78) i Forgannwg, daeth cyfraniadau gwerthfawr ar waelod y batiad gan Graham Wagg (32) a Michael Hogan (27 heb fod allan).
Dim ond pedwar pelawd a chwaraewyd yn ystod y prynhawn oherwydd glaw.
Mae'n edrych yn bur debyg mai mwy o law ydy unig obaith y tîm o Loegr, ond dyw rhagolygon y tywydd ddim yn edrych yn ffafriol iddynt.
Sgôr ddiweddaraf(Diwedd y trydydd diwrnod ym maes Sain Helen yn Abertawe):
Sir Gaerlŷr (batiad cyntaf) = 203 pawb allan
Morgannwg (batiad cyntaf) = 508 am 9 (cloi'r batiad)
Sir Gaerlŷr (ail fatiad) = 134 am 2 (46.0 pelawd)
Sir Gaerlŷr 171 tu ôl i Forgannwg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2013