Mark Colbourne yn ymddeol

  • Cyhoeddwyd
Mark ColbourneFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Enillodd Mark Colbourne fedal aur a dwy arian yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain

Mae'r athletwr Paralympaidd Mark Colbourne MBE wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o dîm seiclo Paralympaidd Prydain.

Enillodd y Cymro un fedal aur a dwy arian yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain 2012.

Roedd wedi cynrychioli Cymru mewn pêl-foli yn y 1990au cyn i ddamwain achosi anafiadau difrifol yn 2009.

Ond yn fuan iawn yr oedd yn cystadlu eto ac fe ymunodd â thîm Paralympaidd Prydain yn 2010.

Cyn y gemau yn 2012 roedd eisoes wedi ennill pencampwriaeth y byd yn yr un flwyddyn ac, wrth ennill yr aur yn y ras C1 unigol yn Llundain, fe dorrodd record y byd yn y rownd ragbrofol ac eto yn y rownd derfynol.

'Llysgennad'

Wrth siarad am ei benderfyniad ddydd Gwener, dywedodd: "Roedd y penderfyniad i ymddeol yn seiliedig ar fy oed ac, wrth fod yn onest gyda mi fy hun, doeddwn i ddim yn gweld y byddwn yn medru parhau i gystadlu am dair blynedd arall tan y Gemau Paralympaidd y Rio.

"Rwyf wedi mwynhau fy ngyrfa a'r uchafbwynt, wrth gwrs, oedd ennill aur yn Llundain 2012. Rwy'n edrych ymlaen at chwarae mwy o ran yn y fy rôl fel llysgennad Paralympaidd Felodrôm Llundain - rhywbeth yr wyf yn falch iawn ohono.

"Dwi hefyd am sefydlu fy nghwmni hyfforddi fydd yn cynorthwyo eraill i ddatblygu eu sgiliau, a hefyd yn mynd i barhau gyda fy ngwaith yn siarad yn gyhoeddus er mwyn rhannu fy stori ac annog eraill i newid a gwella eu bywydau."

Mae Mark, a aned yn Nhredegar, bellach yn 43 oed.

'Anhygoel'

Dywedodd Cyfarwyddwr Chwaraeon Anabledd Cymru, Jon Morgan: "Rydym yn dymuno'r gorau i Mark yn ei ymddeoliad o rasio cystadleuol.

"Mae wedi cael effaith anhygoel ar fyd para-seiclo o'r eiliad y daeth i'r maes rhyngwladol.

"Gan ei fod yn gystadleuydd gwych fe fydd colled ar ei ôl i chwaraeon yng Nghymru a Phrydain.

"Mae hefyd wedi ysbrydoli llawer o seiclwyr ifanc ac mae'n rhan bwysig o waddol y gemau. Rydym felly'n gobeithio y bydd yn parhau yn ei rôl fel llysgennad i Chwaraeon Anabledd Cymru er mwyn ysbrydoli cenhedlaeth arall o athletwyr."