Llofruddiaeth adeiladwr: dyn yn y llys yn Devon
- Cyhoeddwyd
Yn Llys y Goron Plymouth mae sgaffaldiwr 22 oed o Benarth wedi gwadu cyhuddiad o lofruddio cydweithiwr.
Cafodd Jermaine Maguire fechnïaeth amodol tan yr achos ym mis Tachwedd.
Cafodd corff Andrew Wingren, 32 oed o Benarth, ei ddarganfod tu allan i dafarn mewn pentref yn ne Nyfnaint ym mis Chwefror.