Gwahardd cynghorydd ar amheuaeth o dorri cod ymddygiad
- Cyhoeddwyd

Mae Llais Gwynedd wedi gwahardd aelod o'u grŵp yn dilyn cyhuddiad ei fod wedi torri cod ymddygiad.
Mae'r cyhuddiad yn erbyn y Cynghorydd Sir John Brynmor Hughes ac yn ymwneud â phrynu darn o dir.
Eisoes mae'r mater wedi ei gyfeirio at Swyddfa Ombwdsmon Llywodraeth Leol ac maen nhw'n dweud y byddan nhw'n edrych ar y mater.
Y Cynghorydd Gweno Glyn, sydd hefyd yn aelod o Llais Gwynedd, gysylltodd gyda nhw wedi i aelod o'r cyhoedd honni bod Mr Hughes wedi camddefnyddio ei rôl.
Y cyhuddiad yn ei erbyn yw bod dau gwmni adeiladu lleol eisiau prynu darn o dir er mwyn adeiladu tai a bod y cynghorydd wedi ymyrryd mewn ffordd sydd yn torri cod ymddygiad.
Penderfynodd y blaid gymryd y cam i'w wahardd brynhawn Gwener.
Dyw Mr Hughes ddim am wneud sylw am y mater.
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud eu bod wedi cael gwybod am y datblygiadau. Mae gan Llais Gwynedd 13 o gynghorwyr sydd yn cynrychioli wardiau ar Gyngor Gwynedd.