Dyn wnaeth arwain newidiadau i fae Caerdydd yn marw
- Cyhoeddwyd

Mae Syr Geoffrey Inkin, y dyn wnaeth arwain y cynllun i ailddatblygu dociau bae Caerdydd wedi marw yn 78 oed ar ôl salwch byr.
Ef oedd cadeirydd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd rhwng 1987 tan 2000 a tra roedd o wrth y llyw fe adeiladwyd argae yn y bae. Yn dilyn hynny gwelwyd swyddfeydd, tai a chyfleusterau hamdden yn ymddangos ger y dŵr.
Mae gwleidyddion wedi talu teyrnged iddo.
Cyfraniad
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru roedd ei gyfraniad yn fawr,
"Dw i wedi fy nhristau i glywed am farwolaeth Syr Geoffrey. Mi welais i fe dim ond pythefnos yn ôl pan oedd yn cefnogi digwyddiad yn y gymuned ym Mro Morgannwg.
"Mae ei farwolaeth yn golled mawr i fywyd cyhoeddus Cymru.
"Roedd Syr Geoffrey yn noddwr ymroddedig i'r lluoedd arfog ac mae'n cael y clod haeddiannol am un o ailddatblygiadau gorau Ewrop sef bae Caerdydd."
Y fyddin
Cafodd Syr Geoffrey Inkin ei eni yn 1934 ym Mhenarth ac fe gafodd yrfa gyda'r fyddin nes iddo ymddeol yn 1974.
Roedd yn gynghorydd yng Ngwent rhwng 1977 a 1983 ac roedd hefyd yn aelod o awdurdod heddlu Gwent.
Daeth yn uwch siryf yng Ngwent yn 1987.
Roedd Alun Michael sef Comisiynydd Heddlu De Cymru yn Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth pan welwyd newidiadau yn y bae. Dywedodd ef:
"Gwnaeth Syr Geoffrey Inkin gryn gyfraniad i alluogi llwyddiant argae bae Caerdydd ac ail adeiladu'r economi yn ardal de Caerdydd."
Mae Syr Geoffrey Inkin yn gadael gwraig a thri o feibion.