Agor canolfan feicio fwya' Prydain
- Cyhoeddwyd

Mae parc beicio mynydd wedi agor yng Nghoed Gethin, Merthyr Tudful ac mae'n gobeithio denu degau o filoedd o feicwyr bob blwyddyn.
Mae BikePark Wales yn gweithredu'n debyg i ganolfan sgïo, gyda lifft ar gyfer cludo beicwyr i ben y mynydd lle fydd ganddynt ddewis o chwe trac ar gyfer beicio lawr.
Yn ogystal ag arian Ewropeaidd, mae'r prosiect wedi derbyn cyllid gan Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a chynghorau lleol.
Yn ôl y llywodraeth bydd y parc yn codi proffil de Cymru fel lleoliad ar gyfer beicio.
'Llifo a throi'
Mae BikePark Wales, sydd ar gyrion yr A470, yn cael ei ddisgrifio gan y perchnogion fel parc beicio mynydd cyflawn cyntaf y Deyrnas Unedig.
Ar eu gwefan mae'r parc yn disgrifio eu hunain fel "canolfan sgio heb y piste gyda nifer o draciau beicio sy'n llifo ac yn troi".
Bydd cyfle i ymwelwyr feicio ar draciau traws gwlad, teuluol a beth sy'n cael ei ddisgrifio fel 'trac pwmp' sydd wedi ei gynllunio er mwyn gwella sgiliau defnyddwyr.
Dywedodd cyfarwyddwr BikePark Wales Anna Walters: "Ar ôl pum mlynedd o baratoi a chyd-weithio rydym wrth ein bodd ein bod yn agor y parc unigryw hwn.
"Rydym wedi creu canolfan sydd y cyntaf o'i fath sy'n sicr o ddod a budd sylweddol i'r ardal o ran twristiaeth.
"Allwn ni ddim disgwyl i weld y wen ar wynebau ein cwsmeriaid wrth iddynt feicio hyd ein traciau am y tro cyntaf."
'Datblygiad eiconig'
Mae cyllideb ar gyfer y fenter wedi ei sicrhau drwy gymysgedd o fuddsoddiadau preifat a chyhoeddus.
Un ffynhonnell o arian yw'r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu sut mae arian yn cael ei wario yng Nghymru, a dywedodd Gweinidog yr Economi Edwina Hart:
"Mae BikePark yn ddatblygiad eiconig ar gyfer Cymru...
"Hon fydd canolfan feicio fasnachol fawr gyntaf Prydain a'r gobaith yw y bydd yn denu tua 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn gyda'r gallu i gynnal digwyddiadau rhyngwladol.
"Hoffaf longyfarch y partneriaid o'r sectorau preifat a chyhoeddus am weithio gyda'i gilydd er mwyn gwireddu'r weledigaeth ac rwy'n dymuno pob lwc iddyn nhw ar gyfer y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2011