Cwyno fod Tata'n cynhyrchu llwch
- Cyhoeddwyd

Mae pobl yn cwyno ym Mhort Talbot oherwydd bod llawer o lwch yn dal yn y dref oherwydd ffatri Tata Steel gerllaw.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eisoes wedi gorfodi Tata i adolygu'r sefyllfa wedi i lawer o lwch du arwain at gwynion fis diwethaf.
Er fod llai o lwch yn cel ei ryddhau erbyn hyn, mae pobl leol yn dweud ei fod dal yn achosi trafferth.
Dywedodd Tata Steel fod cyrchlu wedi ei sefydlu er mwyn edrych i fewn i'r broblem.
'Pob diwrnod'
Yn ol Paul Davies o Bort Talbot, mae'r broblem yn gwaethygu pan mae'r tywydd yn braf.
Dywedodd: "Mae fwy neu lai yn effeithio arnom bob diwrnod...
"Os ydych yn gadael dodrefn patio tu allan dros nos, erbyn y bore bydd angen ei lanhau."
Disgrifiodd y cynghorydd Rob Jones y sefyllfa dros yr wythnosau diwethaf fel un "hunllefus".
'Cwynion'
Er fod y problem wedi gwella ers hynny mae'n dweud fod llwch fwy man bellach yn dod o'r ffatri:
"Rwyf dal i dderbyn cwynion gan drigolion yn yr ardal ond ddim gymaint ag ychydig wythnosau nol," meddai.
"Rydym wedi cael cyfarfod gyda Tata ac mae un arall ar y gorwel. Maen nhw wedi ein gwahodd i roi diweddariad mewn cysylltiad a'r hyn maen nhw wedi bod yn wneud gyda CNC er mwyn mynd i'r afael a'r broblem."
"Yr hyn wnaeth y broblem yn waeth ychydig wythnosau yn ol oedd dwysedd y llwch yn lleihau.
"Mae o bellach yn llawer fwy man..."
Mae CNC eisoes wedi cyflwyno nodyn gorfodaeth i Tata sy'n eu gorfodi i gymryd camau i ymchwilio i'r broblem.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Dydyn ni heb dderbyn nifer uchel o gwynion dros y diwrnodau diwethaf.
"Rydym wedi cynhyrchu mwy o lwch nag arfer ac mae'r gwynt wedi bod yn chwythu dros y dref."
Straeon perthnasol
- 30 Gorffennaf 2013