Teithwyr: Canslo gêm bêl-droed

  • Cyhoeddwyd
CarafanauFfynhonnell y llun, dave adams, llay united
Disgrifiad o’r llun,
Mae teithwyr wedi parcio eu carafanau ar y caeau pêl-droed

Mae clwb pêl-droed ieuenctid wedi gorfod canslo gemau cyfeillgar oherwydd bod teithwyr yn parhau i fod ar eu caeau yn ardal Wrecsam.

Mae tua 20 o garafannau, ceir a faniau wedi parcio ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun lle mae Clwb Pêl-droed Llai Unedig yn chwarae eu gemau.

Yn ogystal mae hyd at 150 o bobl ifanc yn defnyddio'r cae bob wythnos ar gyfer sesiynau hyfforddi wedi gweld eu sesiynau'n cael eu canslo.

Mae Cyngor Wrecsam sy'n berchen ar y tir yn dweud eu bod yn bwriadu mynd ar mater at y llysoedd.

Pryder Llai Unedig yw y gallai difrod i'r cae effeithio ar ddechrau'r tymor sy'n dechrau ar benwythnos y 7fed o Fedi.

Gweithredu

Dywedodd ysgrifennydd y clwb Dave Adams fod cyfleusterau mewn canolfannau hamdden lleol wedi cael eu defnyddio dros yr wythnos diwethaf ar gyfer sesiynau hyfforddi dan-7 a dan-16 y clwb.

Mae Cyngor Wrecsam yn dweud nad yw'r gwersyll yn anghyfreithlon ond ei fod heb ei awdurdodi ac y bydden nhw o ganlyniad yn gweithredu.

Dywedodd Hugh Jones o'r cyngor: "Mae'r cyngor wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i baratoi'r achos am waharddeb i sicrhau bod y safle yn wag cyn gynted ag y bo modd.

"Yn anffodus, rydym yn awr yn aros ar asiantaethau eraill i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth hanfodol i'r achos llys.

"Er gwaethaf ymdrechion ein swyddogion, nid yw'r wybodaeth hon ar gael a dyw'r achos ddim yn medru parhau ar hyn o bryd. Mae'r cyngor yn barod i fwrw ymlaen ar unwaith pan fydd gennym y dystiolaeth sydd ei hangen."