Prestatyn 4 - 1 Bala
- Cyhoeddwyd

Mae'n ddechrau perffaith i Brestatyn
Mae Prestatyn wedi cael dechrau bendigedig i'r tymor newydd wrth iddynt drechu'r Bala o bedair gôl i un.
Fe sgoriodd Andy Parkinson gyda hanner awr ar y cloc i roi'r tîm cartref ar y blaen, a ni wnaethon nhw edrych yn ôl wedi hynny.
Wedi'r egwyl fe sgoriodd Prestatyn ddwywaith eto i'w gwneud hi'n 3-0.
Llwyddodd Bala i gael un yn ôl ond daeth gorffen anffodus i'r gêm, o'i safbwynt nhw, wrth i'w prif sgoriwr y tymor diwethaf Lee Hunt fachu gôl olaf y gêm i Brestatyn.
Bydd gweddill timau'r gynghrair yn chwarae eu gemau cyntaf yfory.
Dydd Sadwrn 24 Awst:
Airbus UK v Caerfyrddin, 2:30pm;
Gap Cei Cona v Lido Afan, 2:30pm;
Y Drenewydd v Bangor, 2:30pm;
Rhyl v Aberystwyth, 3pm;
Y Seintiau Newydd v Port Talbot, 3:45 pm.
Straeon perthnasol
- 21 Awst 2013
- 19 Awst 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol