Gleision Caerdydd a'r Dreigiau yn ennill
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Owen Williams yn ystod y gem
Fe gurodd Gleision Caerdydd o 45-24 yn erbyn tîm y Sale Sharks a hynny wrth iddyn nhw chwarae ar ei cae synthetic newydd am y tro cyntaf.
Penderfynodd y clwb i fuddsoddi mewn cae newydd wedi i'r cae fynd yn fwdlyd sawl gwaith y llynedd.
Roedd y Sharks ar y blaen o 17- 3 cyn i Tom Williams, Lloyd Williams ac Owen Williams sgorio ceisiadau.
Cafwyd gôl adlam gan Rhys Patchell a daeth dwy gais arall gan Dafydd Hewitt ac Owen Williams.
Curo oedd hanes Dreigiau Casnewydd Gwent hefyd mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Bath. Y sgôr terfynol oedd 22-20.