Bws rygbi yn mynd ar dân

  • Cyhoeddwyd
Worcester WarriorsFfynhonnell y llun, Josh Matavesi
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd llefarydd ar ran y Worcester warriors nad ydyn nhw yn gwybod eto beth achosodd y tân

Mae disgwyl i gêm Y Gweilch yn erbyn y Worcester Warriors gychwyn yn hwyrach a hynny wedi i fws yr ymwelwyr fynd ar dân.

Roedd chwaraewyr Caerwrangon ar draffordd yr M5 ac ar y ffordd i'r gêm gyfeillgar yn erbyn Y Gweilch pan aeth y cerbyd ar dân.

Does 'na neb o'r chwaraewyr na'r staff wedi brifo.

Roedd disgwyl i'r gêm gychwyn am dri o'r gloch ond fydd hi nawr ddim yn dechrau tan hanner awr wedi pedwar.

Mae un lon yn parhau ar gau ar y draffordd rhwng cyffordd 14 ac 15.