Gobaith clwb rygbi Maesteg wedi tân bwriadol
- Cyhoeddwyd

Mae un o glybiau rygbi hynaf Cymru yn gobeithio dechrau'r tymor newydd adref wedi i dân bwriadol ddifrodi'r prif stand.
Yn ôl Cadeirydd Maesteg RFC, David Morgan maent yn disgwyl y bydd cyflenwad cyfyngedig o drydan ar gael yn yr ystafelloedd newid erbyn dechrau Medi.
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r tân a gafodd ei gynnau yn fuan wedi i'r clwb gael ei ailwampio.
Cafodd y clwb rygbi ei sefydlu yn 1877.
Trydan
Fe achoswyd difrod i'r stand a llawr cyntaf y clwb.
"Mae'r cwmni yswiriant yn delio gyda'r mater ac mi ydyn ni yn gwneud popeth y gallwn ni i glirio'r lle," meddai Mr Morgan.
"Does gyda ni ddim pŵer na gwres o gwbl ac mi ydyn ni yn trio cael ychydig o drydan ar gyfer yr ystafelloedd newid.
"Mae yna lot o waith i wneud ar weddill y stand a thŷ'r clwb. Fyddan nhw ddim yn barod yn y dyfodol agos ond mae'r strwythur ei hun yn iawn."
Dywedodd bod difrod ofnadwy i'r stafell ar gyfer aelodau'r clwb a bod gweddill y stand wedi ei effeithio gan fwg a dŵr.
Mae'r seler ac eitemau cofiadwy'r clwb hefyd wedi eu difrodi.
Tymor newydd
Bydd y tymor newydd yn dechrau i'r clwb rygbi ddydd Sadwrn 7 o Fedi. Tra bod y gêm gyntaf i ffwrdd mae'r ddwy sydd yn dilyn adref.
Os na fydd Maesteg yn llwyddo i gael cyflenwad o drydan sydd yn gweithio erbyn y gemau hynny fe fyddan nhw yn ceisio chwarae i ffwrdd gyda help Undeb Rygbi Cymru.
Fe fyddant yn gobeithio defnyddio ystafelloedd newid canolfan hamdden gyfagos os nad yw hyn yn bosib.
Mi all y cefnogwyr ddefnyddio'r stand arall sydd ar y cae i wylio'r gemau am na chafodd hwnnw ei effeithio gan y tân.
Straeon perthnasol
- 14 Awst 2013
- 14 Awst 2013
- 13 Awst 2013
- 13 Awst 2013