Damwain: gyrrwr y beic modur yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr beic modur wedi ei anfon i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad gyda cherbyd yn Sir Ddinbych.
Dywed y gwasanaeth ambiwlans fod y ddamwain wedi digwydd ar yr A543 rhwng Dinbych a'r Bylchau a hynny toc cyn 10 bore Sul.
Cafodd y gyrrwr beic modur ei anfon i Ysbyty Glan Clwyd ond ni chredir bod ei anafiadau yn rhai sydd yn rhoi ei fywyd mewn peryg.