Damwain yn y môr : dau wedi anafu
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi ei hanafu ar ôl gwrthdrawiad yn y dŵr ym Mhorthmadog, Gwynedd.
Roedd y ddau yn gyrru beiciau dwr ym mae Sampson pan ddigwyddodd y ddamwain am 3.12pm brynhawn Sul.
Cafodd y fenyw anafiadau difrifol i'w choes ac mae dyn wedi cael anafiadau i'w ben.
Anfonwyd yr ambiwlans awyr ac awyren RAF y Fali at y safle ac fe gludwyd y ddau i'r ysbyty.
Roedd timau achub Cricieth, tîm gwylwyr y glannau, yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans hefyd yno i gynorthwyo.