Prif weithredwr newydd i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Hugh Morris yw prif weithredwr newydd Morgannwg.
Bydd Morris yn olynu Alan Hamer wnaeth gyhoeddi ddydd Sul ei fod o'n ymddiswyddo diwedd y flwyddyn.
Mae disgwyl i Morris, sy'n 49 a chyn reolwr gyfarwyddwr Lloegr ddechrau yn ei swydd newydd ar unwaith.
Fe oedd capten Morgannwg yn 1993 pan enillodd y sir Cynghrair y Sul.
Yn 1997 roedd ganddo ran bwysig pan wnaeth Morgannwg gipio pencampwriaeth y siroedd.