200 o swyddi mewn cwmni ffôn
- Cyhoeddwyd

Bydd hyd at 200 o swyddi yn cael eu creu ym Merthyr Tudful gan gwmni ffonau symudol EE.
Fe fydd yna gymysgedd o swyddi llawn amser a rhan amser yn cael eu cynnig yng nghanolfan alwadau'r cwmni.
Bydd cyfanswm o 15 o brentisiaethau yn cael eu cynnig, gyda recriwtio drwy Goleg Merthyr Tudful.
Dywedodd AS Merthyr Tudful a Rhymni, Dai Havard, bod y penderfyniad yn "bleidlais o hyder" yn y gymuned leol.
'Brwdfrydig'
Canmolodd yr Aelod Cynulliad lleol, Huw Lewis, ymrwymiad y cwmni i greu 15 o brentisiaethau newydd ym mis Tachwedd ar ben y 25 sydd i fod i ddechrau cyn bo hir.
"Yr oeddwn yn falch o ymweld â chanolfan cwsmeriaid EE yma yn Merthyr Tudful yn ddiweddar ac i gwrdd â 12 o brentisiaid newydd a oedd i gyd yn hynod o frwdfrydig ynghylch gweithio ar gyfer y cwmni," meddai.
"Mae'r cyhoeddiad heddiw o swyddi ychwanegol yn hwb i'w groesawu i Ferthyr ac yn arwydd o'r hyder gwbl briodol sydd gan EE yn ei weithlu ym Merthyr."
Bydd recriwtio yn dechrau'r mis hwn.
Dywedodd Francoise Clemes, pennaeth gwasanaeth cwsmeriaid EE: "Yn ogystal â rhoi hwb i swyddi y mae mawr eu hangen ar gyfer ardal sydd wedi cael ergyd drom gan y dirwasgiad, mae'r cynnydd yn nifer y gweithwyr yn ein canolfannau cwsmeriaid yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i holl gwsmeriaid EE".
Straeon perthnasol
- 3 Awst 2013
- 28 Mehefin 2013
- 1 Awst 2013