Chwilio am ddyn aeth i mewn i Lyn Syfydrin
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i chwilio am ddyn a gafodd ei weld diwethaf mewn llyn ger Aberystwyth ddydd Llun.
Y gred yw bod y dyn 27 oed wedi mynd i drafferthion yn Llyn Syfydrin.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 4pm.
Roedd yn yr ardal ar ddiwrnod allan gyda'r teulu.
Mae'r heddlu, y gwasanaeth tân ac achub, y gwasanaeth ambiwlans a gwylwyr y glannau wedi bod yn rhan o'r ymgyrch chwilio yn ogystal â hofrennydd yr heddlu, a chŵn arbenigol hefyd yn chwilio.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Yn amlwg, mae ei deulu a'r gwasanaethu brys yn poeni'n arw am ei les ac mae posibilrwydd y gallai'r dyn fod wedi dod allan o'r dŵr ac wedi mynd i grwydro."
Fe'i disgrifir fel dyn tua chwe throedfedd o daldra, gyda barf a mwstash.
Mae'n eithaf tenau, ac mae ganddo wallt melynfrown. Roedd yn gwisgo trowsus byr lliw glas tywyll.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.