Damwain: Cerddwr mewn cyflwr difrifol iawn
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty oherwydd damwain ffordd yn oriau mân fore Llun.
Roedd y ddamwain ar yr A489 rhwng Machynlleth a Phenegoes am 1.20am pan gafodd y cerddwr ei daro gan gar Citroen Berlingo lliw arian.
Mae'r cerddwr, dyn lleol 37 oed, yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, gydag anafiadau i'w ben, gwddf, coesau a breichiau.
Dylai unrhyw dystion gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol