Blaenor amlwg yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd

Mae un o flaenoriaid amlwg Presbyteriaid y gogledd wedi ymddiswyddo oherwydd agwedd yr enwad at briodasau sifil.
Dywedodd Meurig Voyle, cyn-ysgrifennydd Undeb y Ffermwyr yn Sir Ddinbych, ei fod wedi gwneud y penderfyniad "oherwydd rhesymau moesol".
Roedd Mr Voyle, 89 oed, yn flaenor yn y Capel Mawr yn Ninbych.
Ym mis Gorffennaf cytunodd Cymanfa Gyffredinol yr enwad â phenderfyniad comisiwn yr eglwys na ddylai fod polisi swyddogol ar y mater.
Rhwyg
Roedd y gymanfa yn poeni y byddai polisi o blaid neu yn erbyn priodasau sifil yn creu rhwyg.
Mewn dogfen swyddogol dywedodd y Presbyteriaid: "Uwchlaw popeth arall rydym am ddiogelu undod y gymanfa ac anrhydeddu enw'r Arglwydd Iesu Grist.
"Rydym hefyd yn cydnabod a dathlu'r argyhoeddiadau gwahanol sy'n bodoli yn ein plith.
"Mae'r comisiwn felly yn cynnig fel a ganlyn i'r gymanfa: nad ydym yn dod i benderfyniad ar y mater hwn nac yn llunio polisi o blaid nac yn erbyn, a thrwy hynny yn gweithredu'n unol ag ysbryd y corff yn hanesyddol mewn materion dadleuol o'r fath."
Anfodlon
Ond mae Mr Voyle, sy wedi bod yn flaenor am 55 mlynedd, yn anfodlon oherwydd y diffyg penderfyniad.
Mae wedi bod yn flaenor yn y Capel Mawr ers 1974.
Dywedodd mewn llythyr nad oedd yn wrth-hoyw.
"Mae priodas wedi ei sefydlu gan Dduw, wedi ei sefydlu ar anghenion a thueddiadau traddodiadol.
"Rwyf yn gwrthwynebu priodasau o'r un rhyw ac felly ni allaf barhau fel un o arweinwyr yr enwad."
Henffasiwn
Roedd yn derbyn, meddai, y byddai nifer o bobl yn meddwl ei fod yn henffasiwn ond ychwanegoddd ei bod hi'n bwysig ei fod yn glynu wrth ei gredoau.
"Doedd y penderfyniad ddim yn un hawdd ond mae pobl sy'n fy adnabod yn gwybod unwaith i mi ddod i benderfyniad, yna rwy'n glynu ato."
Dywedodd yr Eglwys Bresbyteraidd: 'Dylai'r eglwys leol drafod hyn ymhellach."
Straeon perthnasol
- 4 Mehefin 2013
- 21 Mai 2013