Achub bachgen 7 oed o Gadair Idris
- Cyhoeddwyd

Mae hofrennydd yr awyrlu wedi achub pum aelod o deulu oddi ar fynydd Cadair Idris.
Roedd bachgen saith mlwydd oed a dyn 70 oed ymhlith y rhai cafodd eu hachub nos Lun.
Roedd y bachgen wedi mynd i drafferthion wedi iddo gael ei wahanu o weddill y teulu wrth gerdded ar y mynydd ger Dolgellau.
Cafodd ei achub oddi ar glogwyn.
Clogwyn Cyfrwy
Dywedodd Tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi bod y bachgen yn rhan o grŵp o bobl o Fanceinion oedd wedi rhannu yn ddau grŵp llai, y naill yn meddwl bod y bachgen gyda'r grŵp arall.
Cafodd y bachgen ei ddarganfod yn y tywyllwch ar wyneb clogwyn Cyfrwy.
Wedi i'r bachgen gael ei achub, aeth y peilot yn ôl i waelod y clogwyn lle'r oedd aelodau eraill y teulu yn aros.
Roedd un dyn 70 oed diabetig yn dioddef o salwch gan nad oedd ganddo fwyd i reoli ei glefyd, ac roedd un arall wedi anafu ei ben-glin.
Cafodd pedwar o bobl eu cludo i waelod y mynydd gan yr hofrennydd.
Yn ddiweddarach y noson honno, cafodd paragleidiwr o Gaerdydd ei achub, wedi iddo fynd i drafferthion ar y copa yn y tywyllwch.
Straeon perthnasol
- 30 Hydref 2012
- 29 Mehefin 2012