Cynghrair Cymru: Y Seintiau Newydd
Gan Sarah Roberts
Cefnogwr y Seintiau Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae tymor newydd Uwchgynghrair Cymru wedi dechrau gyda buddugoliaeth i'r Seintiau Newydd - dim syndod felly!
Mae'r chwaraewyr i'w gweld yn awyddus am yr her sydd o'u blaen ac maen nhw eisiau profi eu bod nhw'n deilwng.
Does dim llawer o newid i'r garfan ers y tymor diwethaf, Chris Jones yw'r unig un newydd - mae'n ail-ymuno â'r tim yn dilyn haf o edrych mewn llefydd eraill.
Felly beth yw'r siawns ein bod ni am ennill y gynghrair eto'r tymor hwn? O le rwy'n sefyll, maen nhw am wneud.
Ond beth am ddisgwyl ychydig gan y bydd y siwrne'n sicr o fod yn un ddiddorol iawn gan fod rhai o'r cystadleuwyr eraill wedi codi eu gem.
O edrych ar ein chwaraewyr mae'n rhaid dweud fod pob un yn haeddu lle yn y garfan. Greg Draper yw ein heilydd arbennig, mae Aeron Edwards wedi tyfu o ran ei hunan hyder, a does neb yn dod yn agos at Paul 'H' Harrison.
Dydw i heb weld rhyw lawer o Jamie Mullan ond mae o'n dda iawn ar y bel, mae Alex Darlington yn ddibynadwy ac yn graig ac mae'r gweddill - Rawlingson, Spender, Marriott, Fraughan, Seargeant, Finley - i gyd yn weithwyr caled.
Pan mae Steve Evans yn holliach mae'n dwr o gryfder, ond y cwestiwn yw a welwn i ef yng nghrys y Seintiau Newydd eto? Rwy'n gobeithio'n arw y gwnawn ni.
Un arall i wylio yw Aaron Simms, ond dydw i ddim yn gwybod digon am ein gôl-geidwad wrth law Chris Mullock eto.
Yr unig beth ddyweda i yw fy mod i gant y cant tu ôl i'r tim - lle bynnag maen nhw'n mynd fe fydda i yno.
Clwb blaenorol yn y gyfres: Lido Afan
Straeon perthnasol
- 1 Medi 2013
- 31 Awst 2013