Gwaith yn dechrau ar reilffordd

  • Cyhoeddwyd
Trac
Disgrifiad o’r llun,
Mae £10m yn cael ei wario ar wneud teithiau yn gyflymach ac yn fwy cyfforddus

Mae gwaith wedi dechrau ar y rheilffordd rhwng Wrecsam ag Amwythig er mwyn moderneiddio'r gwasanaeth.

Yn ôl Network Rail bydd y gwaith, fydd yn costio rhyw £10 miliwn, yn rhoi hwb i'r economi drwy wneud y rhwydwaith yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy.

Dywedodd rheolwr y llinell, Mark Langman, fod y gwaith yn rhan o gynllun ehangach i wella rheilffyrdd yng Nghymru.

Ond mae rhai wedi beirniadu'r ffaith na fydd gwelliannau yn cael eu gwneud i'r ffyrdd a'r rheilffordd rhwng Wrecsam a Chaer.

'Tyfiant economaidd'

Wrth i'r gwaith gael ei wneud bydd bysiau yn rhedeg rhwng gorsafoedd ar y llinell sy'n cael ei heffeithio.

Bydd gwasanaeth yn cael ei ail agor ddydd Llun 2 Awst ac mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn mis Medi.

Mae gweithwyr yn gosod traciau newydd ac yn adlino rhai eraill, a dylai hyn leihau sŵn gan arwain at daith brafiach ar gyfer cwsmeriaid.

Dywedodd Mr Langman: "Bydd rheilffordd gadarn o gymorth er mwyn ysgogi tyfiant economaidd ledled y wlad.

"Mae'r buddsoddiad diweddaraf yn nyfodol rheilffyrdd ledled Cymru a siroedd ffiniol Lloegr yn rhan allweddol o'r cynlluniau i foderneiddio er mwyn dod â'r rheilffordd ar draws yr ardal i'r ganrif hon.

"Y camau nesaf yn y rhaglen foderneiddio fydd gwella'r systemau signal a rheoli rhwng Casnewydd ag Amwythig, a rhwng Fflint a Llandudno, gan ddechrau yn 2015.

"Bydd y buddsoddiadau yma i gyd o fudd i'r teithwyr gyda photensial am deithiau cyflymach ac amlach ar rwydwaith sy'n fwy gwydn a dibynadwy."

Golyga hyn welliannau i orsaf Prestatyn ac ar y llinell yn ardaloedd Y Rhyl, Fflint a Llandudno.

Oedi

Bu ffrae yn ddiweddar pan ddywedodd pwyllgor Cynulliad fod angen i weinidogion wneud mwy i fynd i'r afael ag oedi mewn prosiectau sydd i fod i roi hwb i economi gogledd Cymru.

Dywedodd Ffederasiwn y Busnesau Bach fod busnesau yn dioddef yn sgil hynny.

Mae saith milltir o drac i fod i gael ei ddyblu rhwng Wrecsam a Chyffordd Saltney, ger Caer fel rhan o brosiect sydd wedi derbyn £36 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Roedd disgwyl i'r gwaith gael ei orffen erbyn 2015 ond mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth, Edwina Hart, nawr yn adolygu'r cynlluniau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol