AS yn ymosod ar y mesur lobïo
- Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol Caerffili Wayne David wedi ymosod ar Lywodraeth San Steffan am gynlluniau i newid rheolau sy'n ymwneud â lobïo.
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, pwrpas y mesur yw cynyddu tryloywder drwy orfodi mudiadau sy'n ymgyrchu mewn ffordd sy'n cefnogi plaid neu ymgeisydd i nodi a chyhoeddi unrhyw wariant ar yr ymgyrchoedd hynny.
Ond mae Mr David yn honni y byddai'r mesur lobïo yn cael effaith sylweddol ar allu elusennau yng Nghymru i ymgyrchu a dweud eu barn ar faterion yn gyhoeddus.
Bydd y mesur yn cael ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth.
Mesur 'draconaidd'
Mae Mr David - llefarydd diwygio gwleidyddol y Blaid Lafur - yn disgrifio'r mesur fel un "draconaidd" a fyddai'n gallu atal elusennau yng Nghymru rhag ymgyrchu ar rai materion yn gyhoeddus.
Dywedodd: "Mae'r llywodraeth yn gosod cyfyngiadau anferth ar allu mudiadau elusen i ymgyrchu.
"Bydd y mesur yn rhoi gafael haearnaidd ar elusennau ledled y DU, ond bydd yr effaith ar Gymru yn arbennig o lym. Mae'n hollbwysig fod pawb yn sylwi y byddai'r mesurau gwanychol yma yn achosi difrod difrifol i'r broses ddemocrataidd.
"Mae'r mesur am atal elusenau rhag cael datgan barn yn gyhoeddus ar ystod eang o faterion pwysig."
Mae rhan o'r mesur yn newid y rheolau presennol ynglŷn â faint gall grwpiau sydd ddim yn bleidiau gwleidyddol ei wario yn ystod cyfnod etholiadol ar ymgyrchoedd sy'n cael eu hystyried fel rhai "sy'n cael eu cynnal... ar gyfer diben etholiadol".
Er mwyn gweithredu hyn mae'n gostwng faint gall grwpiau ei wario cyn bod rhaid iddynt gofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol - yng Nghymru bydd y swm yn lleihau o £5,000 i £2,000.
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn dadlau bod y diffiniad o "at ddiben etholiadol" yn rhy fras, ac y gallai felly arwain at elusennau'n gorfod cyfyngu faint maen nhw'n wario er nad ydynt yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd etholiadol.
Ar eu gwefan mae CGGC yn dweud: "Mae [y mesur] yn golygu hefyd y gallai gallu elusennau i ymateb i ddatblygiadau pwysig ar bolisi cyhoeddus ar faterion sy'n berthnasol i'w cenhadaeth a'u buddiolwyr gael ei danseilio, oherwydd gellid ystyried bod hyn o fewn ystyr 'gweithgaredd at ddibenion etholiadol'.
"Gallai ymgyrchu yn erbyn traffordd newydd arfaethedig, neu siapio deddfwriaeth sydd ar y gweill yn y Cynulliad, er enghraifft, ddod o dan y rheolau newydd - er ei bod yn ddigon posib fod elusen wedi bod yn gwneud y pethau hyn ers blynyddoedd lawer.
"Y cwestiwn sydd heb ei ateb yw pam mae angen hyn i gyd? Pa broblem mae'r bil yn ceisio ei datrys? Ai'r ateb yn syml yw na chafodd goblygiadau llawn y cynigion eu hystyried yn briodol, a bod gwaith arferol elusennau wedi'i gynnwys yn y bil yn anfwriadol?
"Neu a oes bwriad clir i gyfyngu ar rôl elusennau yn yr ymgyrchu cyn etholiadau?"
Ond mae Llywodraeth y DU yn mynnu mai pwrpas y mesur yw gwneud ymgyrchoedd sy'n cael eu cynnal gan fudiadau am resymau gwleidyddol yn gliriach, drwy orfodi mudiadau i ddatgan diddordeb a chyhoeddi gwariant.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Cabinet: "Pwrpas y Mesur Tryloywder yw dod â mwy o dryloywder pan mae mudiadau'n ymgyrchu mewn ffordd sy'n cefnogi plaid wleidyddol benodol neu ei hymgeiswyr.
"Bydd yn gwneud hyn drwy eu gorfodi i ddatgelu unrhyw arian sy'n cael ei wario ar yr ymgyrchoedd hynny.
"Dyw'r mesur hwn ddim yn cynnwys ymgyrchoedd gan fudiadau, elusenau na chyrff eraill sydd ddim yn ceisio, neu na ellid ei ystyried yn rhesymol i fod yn ceisio, hyrwyddo llwyddiant etholiadol unrhyw blaid benodol.
"Felly byddai mudiad sydd ond yn ymgyrchu ar faterion polisi yn cael eu heithrio."