Berahino'n dysgu gwers i Gasnewydd
- Cyhoeddwyd

Saido Berahino oedd seren y gêm
Mae Casnewydd wedi colli'n erbyn West Brom yng nghwpan cynghrair Lloegr.
Fe sgoriodd Saido Berahino dair gôl yn yr hanner cyntaf er mwyn sicrhau buddugoliaeth i'r tîm sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr.
Llwyddodd Berahino, sydd newydd dderbyn gwahoddiad i chwarae i dîm dan 21 Lloegr, i gyd-chwarae'n effeithiol gyda'r cyn Alarch Scott Sinclair ar gyfer y gôl gyntaf.
Roedd ei ail yn chwip o ergyd o du allan i'r cwrt cosbi ac fe wnaeth sicrhau'r hawl i gadw'r bêl gyda chic o'r smotyn.
Bydd Casnewydd yn canolbwyntio ar y gynghrair yn dilyn eu dechrau caboledig i'r tymor.