Chwilio am ddyn â gwn Taser
- Cyhoeddwyd

Dechreuodd y chwilio nos Fawrth yn dilyn adroddiad bod dyn â gwn Taser yn Nheras y Rheilffordd
Mae heddlu yn chwilio am ddyn y credir ei fod yn meddu ar wn Taser ym Maesteg, ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Dechreuodd y chwilio nos Fawrth yn dilyn adroddiad bod dyn â gwn Taser yn Nheras y Rheilffordd yn y dref.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn parhau i chwilio amdano.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol