Cydraddoldeb: 'Angen mwy o bwerau'
- Cyhoeddwyd

Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am ddatganoli pwerau ychwanegol ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.
Yn ystod ymgynghoriad clywodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol fod "dulliau gwahanol o ymdrin â'r materion hyn yng Nghymru a Lloegr".
Er bod rhai meysydd o ddeddfwriaeth cydraddoldeb ynghylch y sector cyhoeddus wedi'u datganoli i Gymru, dywedodd y pwyllgor y gallai rhai deddfau yn y meysydd hyn fethu'n awtomatig os yw Llywodraeth y DU yn diddymu Deddf Cydraddoldeb 2010.
Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru am eu hymateb.
'Mwy o bwerau'
Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: "Prif ddiben y penderfyniad i geisio cael mwy o bwerau dros faterion cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yw gwarchod gwaith y Comisiwn, Llywodraeth Cymru a sefydliadau cysylltiedig eraill ar gael gwared ar ragfarn a gwahaniaethu yng Nghymru ...
"Hoffai'r pwyllgor weld perthynas gryfach a mwy ffurfiol rhwng y Comisiwn, Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad, ac mae wedi penderfynu cwrdd â'r Comisiwn bob blwyddyn i drafod ei waith.
"Credwn hefyd fod lle i Lywodraeth Cymru ariannu gwaith y Comisiwn o fonitro a gorfodi dyletswyddau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- 13 Awst 2013
- 19 Tachwedd 2012
- 5 Awst 2013
- 6 Mawrth 2013
- 19 Mehefin 2013