Cwmni theatr National Theatre Wales i ymgartrefu dros dro yn Nhreorci

  • Cyhoeddwyd
Mae'r theatr yn gwneud eu cartref dros dro yn Neuadd y Parc a'r DârFfynhonnell y llun, NAtional Theatre Wales
Disgrifiad o’r llun,
Un o sioeau mwyaf poblogaidd National Theatre Wales yw Praxis Makes Perfect

Neuadd y Parc a'r Dâr yn Nhreorci fydd cartref cwmni theatr cyfrwng Saesneg Cymru, National Theatre Wales (NTW), dros fis Hydref.

Ymysg y sioeau sydd i'w disgwyl yno dros y cyfnod mae Tonypandemonium, drama hunangofiannol gan Rachel Trezise, enillydd gwobr Dylan Thomas.

Heb gartref mewn unrhyw theatr benodol, mae'r theatr yn un deithiol sydd wedi gwneud ei chartref mewn pedwar lleoliad gwahanol eleni.

Fis Mawrth, ymgartrefodd NTW yn Nhrebiwt, Caerdydd, a symudodd i Japan fis Ebrill cyn dychwelyd i Gymru ac i Fôn.

Ers ei sefydlu yn 2009 mae'r cwmni wedi bod yn uchel ei pharch am gynnal dramâu yn y gymuned, am gynnwys y gynulleidfa yn ei dramâu a hefyd am gynnal y dramâu mewn lleoliadau anarferol.

Yn ddiweddar, cafodd drama am Bradley Manning glod yng Nghaeredin, a chafodd sioe aml-gyfrwng gan y cerddor Gruff Rhys, Praxis Makes Perfect, lwyddiant mawr yng Nghaerdydd.

Y llynedd, dangosodd NTW berfformiad modern o Coriolanus gan Shakespeare mewn awyrendy yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg.

Ffynhonnell y llun, RCT
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r Parc a'r Dâr yn dathlu ei chanmlwyddiant

Mae NTW yn gwneud ei chartref yn Nhreorci wrth i'r Parc a'r Dâr ddathlu canmlwyddiant yr adeilad.

Fe godwyd yr adeilad yn 1913 ar ôl i lowyr pwll glo y Park a'r Dâr gyfrannu o'u cyflogau i dalu amdano.

Er i'r pwll glo olaf gau yn 1966 mae'r theatr yn parhau'n ganolbwynt diwylliannol i'r ardal.

"Mae'r ddawn ysgrifennu yng Nghymru ar hyn o bryd yn eithriadol," meddai cyfarwyddwr artistig NTW John McGrath.

"Ein gobaith ni yw i arddangos y gorau o beth sydd gan Dreorci a Chwm Rhondda gyfan i'w gynnig."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol