Ffatri Remploy ym Maglan yn cau tra bod un Y Porth ar fin newid dwylo
- Cyhoeddwyd

O fewn wythnosau mae'n annhebygol y bydd unrhyw ffatri Remploy yng Nghymru.
Sefydlwyd y ffatrïoedd er mwyn cynnig swyddi i bobl gydag anableddau ond penderfynodd Llywodraeth y DU gau saith o'r naw ffatri yng Nghymru'r llynedd.
Collodd 280 o bobl eu swyddi.
Dadl y llywodraeth oedd y gallai'r arian ar gyfer gwasanaethau cyflogi anabledd gael ei wario'n fwy effeithlon.
Gwrthod
Roedd Llywodraeth Cymru yn erbyn cau'r ffatrïoedd ond cafodd cais i drosglwyddo'r mater i Fae Caerdydd ei wrthod.
Roedd y ddau safle yn weddill yng Nghymru - Baglan ger Port Talbot a'r Porth yn y Rhondda - wedi cael eu hystyried yn gynaliadwy er eu bod yn gwneud colledion adeg yr adolygiad yn 2012.
Mae'r cwmni wedi cyhoeddi y bydd ffatri Baglan hefyd yn cau a 54 o weithwyr yn colli eu swyddi.
Bydd ffatri'r Porth yn newid dwylo o fewn wythnosau.
Mae 56 o bobl anabl yn gweithio yn y ffatri, sy'n dwyn yr enw Remploy E-Cycle, ac yn ail-gylchu offer cyfrifiadurol.
Pan gaiff y ffatri ei gwerthu, bydd yn gwmni ar wahân i Remploy a'r enw fydd E-Cycle.
Y saith safle Remploy arall a gaeodd yng Nghymru oedd Aberdâr, Abertyleri, Pen-y-bont, Croespenmaen, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam.
13
Erbyn hyn, 13 o ffatrïoedd Remploy sydd ar ôl ym Mhrydain gyfan.
Mae'r cwmni eisoes wedi cyhoeddi y bydd tair ohonyn nhw'n cau - Blackburn, Sheffield a Baglan, ac mae'r gweddill yn y broses o gael eu trosglwyddo i berchnogion newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Remploy nad hwn fyddai diwedd y cwmni.
Er bod yr ochr weithgynhyrchu'n dod i ben, meddai, fe fydd y gwaith recriwtio'n para ac fe fyddan nhw'n cynnig gwasanaeth i bobl ag anableddau er mwyn dod o hyd i waith iddyn nhw.
Yng Nghymru fe fydd canghennau o'r busnes recriwtio mewn ardaloedd fel Caerdydd ac Abertawe.
Straeon perthnasol
- 4 Gorffennaf 2013
- 6 Mai 2013
- 29 Ebrill 2013
- 25 Ebrill 2013
- 16 Awst 2012
- 7 Rhagfyr 2012
- 6 Rhagfyr 2012
- 18 Medi 2012
- 26 Gorffennaf 2012
- 19 Gorffennaf 2012
- 18 Gorffennaf 2012