Pryder am godi 250 o dai ym Mangor
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion cynllunio wedi argymell caniatáu cais cwmni Redrow i godi 250 o dai yn ardal Penrhosgarnedd ond mae gwrthwynebiad cryf yn lleol.
Os yw'n mynd yn ei flaen, hwn fydd y datblygiad tai mwyaf ym Mangor ers 40 mlynedd.
Bydd cynghorwyr Gwynedd yn trafod y cais yr wythnos nesaf.
Yn ôl cynllunwyr, mae angen dros 800 o dai newydd yn y ddinas yn ystod y blynyddoedd nesaf.
86 o'r tai
Maen nhw wedi dweud y bydd 86 o'r tai yn fforddiadwy ac wedi cyfadde' y bydd yna rywfaint o sŵn tra bod y datblygiad yn digwydd ond y byddan nhw'n trefnu sgrin acwstig i leihau'r sŵn.
Tra'n cydnabod y bydd effaith ar ysgolion lleol oherwydd codi'r tai, mae'r datblygwyr wedi dweud y byddan nhw'n cyfrannu arian fel bod modd cyflwyno gwelliannau i'r ysgolion.
Ond barn rhai yn lleol yw bod y datblygiad yn rhy fawr.
"Dwi ddim yn gwybod sut maen nhw wedi gweithio hynny allan (yr angen am 800 o dai)," meddai Jim Hughes sydd wedi casglu cannoedd o enwau ar ddeiseb.
"Os sbiwch chi o gwmpas, mae 'na nifer o dai 'to let' a rheiny heb eu gwerthu ers blwyddyn."
Traffig
Os bydd y tai'n cael eu codi mae rhai'n poeni am yr effaith ar draffig, yn enwedig o gofio bod tagfeydd yn digwydd yn aml.
"Mae'r lonydd yn brysur iawn," meddai Hayley Jones.
"Dwi ddim yn gwybod be' fydd yn digwydd os bydd y tai'n cael eu codi."
Mae'r safle 24 erw yn ffinio'r A55 ar un ochr ac Ysbyty Gwynedd ar y llall.
Straeon perthnasol
- 17 Gorffennaf 2013
- 20 Tachwedd 2012