Corff dyn o Sir y Fflint mewn camlas ger Caer
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio am fod corff dyn o Sir y Fflint mewn camlas ar gyrion Caer.
Y gred yw bod y dyn yn ei ugeiniau cynnar o ardal Brychdyn.
Mae post mortem yn cael ei gynnal ar y corff.
Cafodd Crwner Caer wybod ac mae disgwyl iddo agor cwest o fewn dyddiau.
Dywedodd Heddlu Caer iddyn nhw gael galwad fod corff yn arnofio yn nghamlas Shropshire Union ger Vicars Cross, Caer, am 3.30pm ddydd Llun.
"Ar hyn o bryd does dim esboniad am y farwolaeth," meddai.