Brathu clust: Rhybudd o garchar
- Cyhoeddwyd

Roedd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug
Gallai dyn 18 oed wynebu carchar wedi iddo frathu clust meddyg oedd yn dathlu cyn y Nadolig mewn tafarn.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Samuel Thomas Roberts o Abergele wedi gadael rhan o'r glust ar fainc ger tafarn.
Aed â'r Dr Brython Hywel ar frys i'r ysbyty wedi'r drosedd y tu allan i dafarn y Stag yn Llangernyw ger Abergele ar Ragfyr 23.
Am nad oedd modd gwnïo rhan o'r glust yn ôl bydd y meddyg yn cael llawdriniaeth.
Plediodd y diffynnydd yn euog i gyhuddiad o anafu gyda bwriad.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu ym Medi.