A ddylai awdurdodau Syria 'wynebu'r canlyniadau'?
- Cyhoeddwyd

Tra bod Ysgrifennydd Cymru'n dweud bod rhaid i'r awdurdodau yn Syria "wynebu'r canlyniadau" yn sgil yr ymosodiad honedig ag arfau cemegol, mae eraill yn amau'n fawr a ddylid ymyrryd yn filwrol.
Ddydd Iau mae'r Senedd yn Llundain yn trafod argyfwng Syria.
Mae'r disgwyl i'r drafodaeth ddechrau am 2pm ac y bydd pleidlais yn cael ei chynnal tua 10pm.
Dywedodd y Blaid Lafur y byddai eu gwelliant yn galw ar y Prif Weinidog i oedi cyn gweithredu'n filwrol hyd nes bydd archwilwyr arfau y Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi adroddiad am y defnydd o arfau cemegol.
'Tystiolaeth'
Yn ôl cyn Ysgrifennydd Cymru, Paul Murphy: "Un o'r cwestiynau mawr yw a all gweithredu milwrol wella'r sefyllfa?
"Fe fydda' i'n gwrando'n astud ar yr hyn mae'r llywodraeth yn ei ddweud am effaith y gweithredu, beth fydd cyfraniad y Cenhedloedd Unedig a beth yn union yw'r dystiolaeth am y defnydd o arfau cemegol."
Eisoes mae'r llywodraeth wedi dweud eu bod yn barod i weithredu yn erbyn Syria heb gefnogaeth lawn Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones: "Mae defnyddio arfau cemegol yn weithred anllad, yn enwedig o gofio eu bod wedi eu defnyddio yn erbyn pobl gyffredin.
'Anodd'
"Felly mae angen i Assad ddeall beth yw canlyniadau yr hyn mae wedi ei wneud."
Ond dywedodd AS Ceidwadol Bro Morgannwg Alun Cairns mai hon "fyddai un o'r pleidleisiau mwya' anodd".
Yn y cyfamser, dywedodd arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd: "Ni fydd cynnig yn condemnio'r defnydd o arfau cemegol yn ddigon.
"Mi ddylai amlinellu'n glir beth yw 'ymateb cymesur' fel bod modd i Aelodau Seneddol gefnogi cynlluniau Mr Cameron neu beidio.
"Rydan ni'n credu y byddai ymyrryd yn filwrol yn golygu y byddai'r argyfwng yn hirach ac yn arwain at fwy o dywallt gwaed."
Mae arweinydd Cristnogol wedi galw ar bobl i gysylltu gyda'u Haelod Seneddol ar frys gan ofyn iddo neu hi i bleidleisio yn erbyn ymyrraeth filwrol.
'Diplomyddol'
"Ni ddylai Prydain gymryd rhan mewn ymosodiad treisgar a fyddai'n achosi marwolaeth a dioddefaint pellach," meddai'r Parchedig Ron Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Rhybuddiodd y gallai gweithredu milwrol ar ran pwerau'r gorllewin ansefydlogi'r Dwyrain Canol, gyda chanlyniadau dinistriol posibl.
"Rhaid i Lywodraeth Prydain ganolbwyntio ar ddwyn perswâd ar Syria drwy fesurau diplomyddol."
Straeon perthnasol
- 27 Awst 2013