Yn y llys ar gyhuddiad o anafu Bridger
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 22 oed wedi bod yn y llys ar gyhuddiad o anafu Mark Bridger, llofrudd April Jones, yn anghyfreithlon ac yn faleisus.
Clywodd Llys Ynadon Wakefield honiadau fod Juvinai Ferreira wedi anafu Bridger yng Ngharchar Wakefield ar Orffennaf 7.
Bu raid i Bridger fynd i'r ysbyty.
Ymddangosodd y diffynnydd yn y llys drwy gyswllt fideo.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan yr achos yn Llys y Goron Leeds ar Fedi 11.