Y maswr enwog Cliff Morgan wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae Cliff Morgan wedi marw'n 83 oed wedi cyfnod o salwch.
Roedd yn cael ei ystyried yn un o'r maswyr gorau cyn iddo gael gyrfa fel gohebydd, sylwebydd a Phennaeth Darllediadau Allanol gyda'r BBC.
Dywedodd Llywydd Undeb Rygbi Cymru Dennis Gethin: "Dwi i wedi colli ffrind ac rydym wedi colli un o fawrion y byd rygbi oedd yn ŵr bonheddig."
'Llysgennad'
Dywedodd y prif weithredwr Roger Lewis ei fod yn chwaraewr arbennig: "Roedd yn cynrychioli gwerthoedd rygbi Cymru a thrwy gydol ei yrfa roedd yn llysgennad arbennig i'r gamp ac i Gymru.
"Roedd ganddo ddawn arbennig fel maswr a chafodd yr anrhydeddau mwya' pan oedd yn chwarae i Gymru a'r Llewod.
Y sylwebydd chwaraeon John Ifans yn hel atgofion
"Nid yn unig roedd ei wyneb yn adnabyddus i filiynau ond bydd ei lais enwog yn para am byth ..."
Bydd yn cael ei gofio am ei sylwebaeth ar y gêm Barbariaid yn erbyn Seland Newydd yn 1973 pan sgoriodd Gareth Edwards gais trawiadol.
Dywedodd Gareth Edwards fod angen dathlu ei fywyd.
"Roedd e'n ddarlledwr gwych, mor huawdl a gwybodus.
"Roedd yn llwyddo i ennill dadl os nad oedd yn cytuno gyda safbwynt y person arall. Roedd hi'n fraint ei adnabod."
Enillodd 29 o gapiau i'w wlad, y cyntaf yn 1951. Bu'n gapten ar y Llewod a chwaraeodd i Gaerdydd.
Gadael ysgol
Cafodd ei eni yn Nhrebanog yn y Rhondda ar Ebrill 7 1930 yn fab i löwr.
Fe ymunodd â chlwb Caerdydd ar ôl gadael yr ysgol yn 1949 ac fe ddisgleiriodd wrth i Gymru ennill y Gamp Lawn yn 1952.
Chwaraeodd ran bwysig yn llwyddiant tîm y Llewod cyntaf yn erbyn De Affrica.
Sgoriodd gais yn y gêm gyntaf a chapteinio'r tîm i fuddugoliaeth yn y gêm olaf.
Fe ymunodd gyda'r BBC yn 1958 a dechrau gohebu.
Yn 1975 daeth yn Bennaeth Darllediadau Allanol a chyflwynodd raglen Sport on Four ar BBC Radio 4.
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales Rhodri Talfan Davies: "Roedd cyfraniad Cliff Morgan i ddarlledu chwaraeon yn anhygoel, o flaen a thu ôl i'r meicroffon a'r camera.
'Arweinyddiaeth'
"Fe ddaeth ag ymrwymiad brwd chwaraewr rhyngwladol i'w waith yma yng Nghymru ac i'r BBC ar draws y DU, yn ogystal â llais y gellid ei adnabod ar unwaith ac arweinyddiaeth garismatig."
Roedd hefyd yn gapten y rhaglen deledu A Question of Sport yn ystod y saithdegau ac fe gafodd OBE.
Roedd yn briod am 45 mlynedd gyda Nuala Martin cyn iddi farw yn sydyn yn 1999 ar drothwy Cwpan Rygbi'r Byd.
Mae'n gadael dau o blant a'i ail wraig, Pat, a briododd yn 2001.