Arian yn cael ei ddwyn o gronfa April
- Cyhoeddwyd

Mae arian o gronfa gafodd ei sefydlu yn dilyn diflaniad April Jones wedi cael ei ddwyn o gaffi ym Machynlleth.
Cafodd bocs siâp cacen fach oedd yn cynnwys tua £90 ei ddwyn o gaffi Chimes.
Mae'r cynghorydd tref Michael Williams wedi disgrifio hyn fel "gweithred ffiaidd a dieflig".
Fe garcharwyd Mark Bridger am oes ym mis Mai am lofruddiaeth April.
'Angygoel'
Cafodd Cronfa April ei sefydlu yn fuan wedi i'r ferch fach fynd ar goll fis Hydref diwethaf ac mae dros £70,000 wedi ei godi hyd yma.
Mae arian o'r gronfa'n cael ei roi i achosion da lleol.
Fe wnaeth nifer o gyn chwaraewyr enwog, gan gynnwys rheolwr Cymru Chris Coleman, chwarae gêm bêl-droed yn ddiweddar er mwyn codi arian at y gronfa.
Dywedodd Michael Williams:"Mae hon yn weithred ffiaidd a dieflig. Dydw i ddim yn meddwl gall unrhywun fynd yn is na dwyn bocs elusen. Mae'n hollol anhygoel.
"Mae'r bobl rwyf wedi siarad â nhw ym Machynlleth yn teimlo 'run fath a fi, ei fod yn rhywbeth na all rhywun hyd yn oed ystyried wneud, yn enwedig wrth gofio pam mae'r arian yn cael ei gasglu.
"Mae pobl ym Machynlleth wedi bod yn arbennig o hael tuag at gronfa April Jones."
Heddlu'n ymchwilio
Dywedodd aelod o staff caffi Chimes fod yr arian wedi cael ei gasglu drwy werthu cryno ddisgiau gafodd eu recordio'n arbennig ar gyfer y gronfa.
"Rydym hefyd yn rhoi ein cildwrn yn y bocs," meddai.
"Roedd y bocs ar y cownter, a dydd Iau diwethaf fe aeth y rheolwr i roi arian ynddo, a dyna pryd wnaeth o ddarganfod ei fod wedi mynd."
Fe gafodd Heddlu Dyfed Powys eu hysbysu ac maen nhw'n ymchwilio i'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- 18 Mehefin 2013
- 30 Mai 2013