Dyn o Nelson yn y llys ar gyhuddiad o gamdrin babi
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o gamdrin babi chwech wythnos oed fu farw.
Cafodd y babi Alfie Sullock ei anfon i'r ysbyty ar Awst 20 wedi i'r heddlu dderbyn galwad yn dweud nad oedd yn anadlu mewn tŷ yn Nelson ger Caerffili.
Yn Llys y Goron Caerdydd cafodd cais Michael Pearce, 32 oed o Nelson, am fechnïaeth ei wrthod.
Bydd o flaen y llys eto ym mis Medi.
Straeon perthnasol
- 21 Awst 2013