Cyhuddo Rolf Harris o ymosod yn anweddus
- Cyhoeddwyd

Mae'r darlledwr a'r diddanwr Rolf Harris wedi ei gyhuddo o ymosod yn anweddus ac o greu delweddau anweddus o blant.
Fe fydd yn Llys Ynadon Westminster yn Llundain ar Fedi 23 i wynebu 13 chyhuddiad.
Mae chwe cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch rhwng 15 ac 16 oed a hynny yn ystod 1980 ac 1981 a thri chyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch 14 oed yn 1986.
Hefyd mae'n wynebu pedwar cyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant rhwng Mawrth a Gorffennaf 2012.
Cafodd ei arestio'n wreiddiol fel rhan o ymchwiliad Yewtree i honiadau yn erbyn Jimmy Savile ym mis Tachwedd.
Does dim cysylltiad uniongyrchol rhwng y ddau ddyn.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod yn hyderus bod ganddyn nhw ddigon o dystiolaeth i orchymyn bod Mr Harris yn cael ei arestio.
Mae'r darlledwr wedi bod ar y teledu ym Mhrydain ers mwy na 40 mlynedd wedi iddo symud o Awstralia yn 1952.
Fe gafodd yr OBE a'r CBE.