Lladradau Caerffili: yr heddlu'n chwilio am ddyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad â'r dyn 37 oed
Mae'r heddlu'n ceisio dod o hyd i ddyn 37 oed mewn cysylltiad gyda sawl lladrad yn ardal Caerffili.
Dywedodd yr heddlu fod Gareth Owen Meredyn Harley yn chwe throedfedd o daldra a chanddo lygaid brown.
Mae ganddo gysylltiadau yn ardaloedd Bargoed, Parc Lansbury a Dôl Mornington yn ardal Caerffili.
Dylai unrhyw un sy'n gwybod lle y mae ffonio'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 558 13/08/13.