Syria: Sail gyfreithiol i weithredu milwrol
- Cyhoeddwyd

Mae cyngor cyfreithiol gafodd ei roi i Lywodraeth San Steffan wedi dweud y bydd yn bosib ymosod ar Syria heb gefnogaeth y Cenhedloedd Unedig.
"Ymyrraeth ar sail deyrngarol" fyddai'r rheswm cyfreithiol am fynd i mewn i'r wlad, meddai cyngor Dominic Grieve, y Twrnai Cyffredinol.
Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi cael gwybodaeth gan swyddogion cudd-wybodaeth ei bod hi'n "debygol iawn" mai Llywodraeth Syria ymosododd ag arfau cemegol yr wythnos ddiwethaf.
Y gred yw bod cannoedd o drigolion wedi eu lladd.
Ond mae Llywodraeth Syria wedi gwadu mai nhw wnaeth hyn.
Egwyddor
Mae Aelodau Seneddol, gan gynnwys rhai o Gymru, wedi ailymgynnull yn y Senedd yn Llundain.
Tra oedd bwriad gan y llywodraeth i gyflwyno cynnig o blaid ymyrraeth filwrol dyw'r cynnig hwn ddim yn cael ei drafod bellach.
Yn hytrach mae gwleidyddion yn trafod egwyddor ymyrraeth filwrol.
Mae'r cynnig newydd yn nodi na ddylid cael pleidlais derfynol ar weithredu tan fod adroddiad y Cenehedloedd Unedig am yr arfau cemegol wedi ei gyhoeddi.
Tra bod Ysgrifennydd Cymru'n dweud bod rhaid i'r awdurdodau yn Syria "wynebu'r canlyniadau" yn sgil yr ymosodiad ag arfau cemegol, mae eraill yn amau'n fawr a ddylid ymyrryd yn filwrol.
'Tystiolaeth'
Yn ôl cyn Ysgrifennydd Cymru, Paul Murphy: "Un o'r cwestiynau mawr yw a all gweithredu milwrol wella'r sefyllfa?
"Fe fydda' i'n gwrando'n astud ar yr hyn mae'r llywodraeth yn ei ddweud am effaith y gweithredu, beth fydd cyfraniad y Cenhedloedd Unedig a beth yn union yw'r dystiolaeth am y defnydd o arfau cemegol."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones: "Mae defnyddio arfau cemegol yn weithred anllad, yn enwedig o gofio eu bod wedi eu defnyddio yn erbyn pobl gyffredin.
'Anodd'
"Felly mae angen i Assad ddeall beth yw canlyniadau yr hyn mae wedi ei wneud."
Yn y cyfamser, dywedodd arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd ei fod yn pryderu y gallai mynd mewn i Syria wneud y sefyllfa yn waeth: "Ni fydd cynnig yn condemnio'r defnydd o arfau cemegol yn ddigon.
"Mi ddylai amlinellu'n glir beth yw 'ymateb cymesur' fel bod modd i Aelodau Seneddol gefnogi cynlluniau Mr Cameron neu beidio.
"Rydan ni'n credu y byddai ymyrryd yn filwrol yn golygu y byddai'r argyfwng yn hirach ac yn arwain at fwy o dywallt gwaed."
Dywedodd Aelod Seneddol Llafur dros y Rhondda, Chris Bryant ei fod yn poeni nad oedd dewis rhwng gweithredu neu beidio, a'r unig ddewis oedd yn cael ei ystyried oedd ymosod ar Syria.
"Mae rhai ohonym ni yn poeni y gall gweithred filwrol waethygu'r sefyllfa yn hytrach na'i wella, a'n tynnu ni i mewn i sefyllfa na allwn ni ei reoli."
Dywedodd Paul Flynn, aelod Llafur dros Orllewin Casnewydd y byddai ef hefyd yn gwrthwynebu gweithred filwrol, tra bod cyn Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan wedi pwysleisio y byddai pleidlais arall yn digwydd cyn unrhyw ymyrraeth filwrol.
Mae Arlywydd America, Barack Obama, wedi dweud ei fod yn sicr bod Assad wedi defnyddio arfau cemegol yn erbyn ei bobl ei hun.
Dydy e ddim wedi dweud eto a fyddan nhw'n ymosod ar Syria.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2013
- Cyhoeddwyd29 Awst 2013