Parc Gwledig: Teithwyr yn gadael safle yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae teithwyr oedd yn gwersylla mewn parc gwledig ger Wrecsam wedi dechrau gadael y safle yn unol â gorchymyn llys.
Roedd tua dwsin o deuluoedd yn dal ar safle Parc Gwledig Dyfroedd Alun wedi i'r awdurdod lleol gael gorchymyn gan lys i'w gyrru oddi yno.
Roedd ynadon Wrecsam wedi rhoi tan 5:00yh ddydd Iau i'r teithwyr adael y safle, ac roedd cyngor Wrecsam wedi dweud y byddai beilïaid yn cael eu galw pe bai'r teithwyr yn dal yno fore Gwener.
Trodd y cyngor at y gyfraith wedi i tua 16 o deuluoedd ddechrau gwersylla ar gae pêl-droed yn y parc yr wythnos ddiwethaf.
Bu'n rhaid i dîm pêl-droed Llai United ohirio gêm y penwythnos diwethaf wedi i 20 o geir, carafannau a faniau gyrraedd y safle. Roedd y clwb hefyd yn poeni y byddai'r cae'n cael ei ddifrodi gan y cerbydau.
Bu'n rhaid gohirio sesiynau hyfforddi i tua 150 o bobl ifanc sy'n defnyddio'r caeau yn ddyddiol.
Pan ddaeth y gorchymyn gan y llys ddydd Mercher, fe ddechreuodd rhai o'r teithwyr adael.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones o Gyngor Wrecsam: "Ar ôl cyflwyno'r gorchymyn gan y llys, a gyda chymorth swyddogion y cyngor yn gweithio gyda'r heddlu, mae'r teithwyr bellach wedi dechrau gadael y safle.
"Mae disgwyl y byddan nhw i gyd wedi gadael erbyn heno.
"Os na fydd pawb wedi gadael erbyn bore fory, bydd y cyngor y galw'r beilïaid i mewn."
Mae Parc Gweledig Dyfroedd Alun yn llain o dir tua 400 erw bob ochr i Afon Alun.
Straeon perthnasol
- 24 Awst 2013