Cameron: 'Angen ymateb cadarn' i'r defnydd honedig o arfau cemegol
- Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod angen "ymateb cadarn" i'r defnydd honedig o arfau cemegol yn Syria er gwaetha'r ffaith iddo golli pleidlais yn y Senedd yn Llundain nos Iau.
Pleidleisiodd 285 yn erbyn yr egwyddor o weithredu milwrol tra bod 272 yn cefnogi.
Roedd Arweinydd Llafur Ed Miliband wedi dweud na ddylai perthynas Prydain â'r Unol Daleithiau olygu gwneud yn union fel yr oedd Arlywydd America yn ei ddweud.
Dywedodd Mr Cameron ei fod yn derbyn penderfyniad y Senedd.
Arfau cemegol
Ddydd Iau cyhoeddodd y Prif Weinidog fod gwybodaeth oedd yn honni ei bod hi'n "debygol iawn" mai Llywodraeth Syria ymosododd gydag arfau cemegol yr wythnos ddiwethaf.
Ond mae Llywodraeth Syria wedi gwadu mai nhw oedd yn gyfrifol am ymosodiadau sydd wedi lladd cannoedd.
Roedd Llafur yn dadlau y dylid disgwyl nes i'r Cenhedloedd Unedig gyhoeddi adroddiad ar y digwyddiad, gan ddweud fod angen prawf mai llywodraeth Bashar al-Assad oedd yn gyfrifol cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
Pleidleisiodd ASau yn erbyn eu gwelliant ac roedd y rhan fwyaf o ohebwyr gwleidyddol yn credu y byddai cynnig y llywodraeth yn cael ei gymeradwyo.
Colli rheolaeth
Ond collodd llywodraeth Mr Cameron y bleidlais wrth i 39 AS o'r Glymblaid bleidleisio yn ei erbyn, gan gynnwys y Ceidwadwr David Davies sy'n cynrychioli Mynwy a'r Democrat Rhyddfrydol Roger Williams sy'n cynrychioli Brycheiniog a Maesyfed.
Daeth y canlyniad fel sioc a dywedodd Golygydd Gwleidyddol y BBC Nick Robinson ei fod bellach wedi colli rheolaeth ar ei bolisi tramor.
Dywedodd Mr Robinson hefyd y byddai canlyniad nos Iau yn effeithio ar statws y Prif Weinidog yn rhyngwladol a bod rhai pobl o blaid perthynas agos Prydain â'r Unol Daleithiau yn poeni am y berthynas honno.
Straeon perthnasol
- 30 Awst 2013
- 29 Awst 2013
- 29 Awst 2013
- 27 Awst 2013