Cynghrair Cymru: Lido Afan

  • Cyhoeddwyd
Lido Afan
Disgrifiad o’r llun,
A wnaiff Lido Afan lwyddo i aros yn yr Uwchgynghrair?

Doedd dim llawer i ganu amdano yn Lido Afan y tymor diwethaf, gyda'r tîm yn gorffen ar waelod y gynghrair o bellter sylweddol.

Cwymp Llanelli oedd achubiaeth Lido - fe gafon ni aros fyny am reswm technegol - ac er nad yw'n braf gweld unrhyw glwb yn y sefyllfa yno, mae pawb yn Lido yn falch o gael cyfle i gael cyfle i wneud yn iawn am y tymor diwethaf.

Ni wnaeth neb sy'n gysylltiedig â'r clwb fwynhau'r tymor diwethaf, ond mae rhesymau i fod yn ofalus hyderus wrth i ni ddechrau tymor newydd.

Er ein bod ni eisiau ennill y gynghrair cymaint ag unrhyw glwb arall, neu fod yn rhan o'r chwech uchaf adeg yr holl o leiaf, y nod ar gyfer y chwaraewyr a'r staff fydd gorffen yn 10fed gan sicrhau ein bod yn gorosi yn yr Uwchgynghrair.

Mae ein rheolwr Paul Evans wedi bod yn brysur iawn dros yr haf ac mae llu o wynebau newydd wedi ymuno a ni, ar y cae ac oddi arno.

Mae'r ffaith fod arwyr o orffennol y clwb wedi ymuno gyda'r staff wedi rhoi hwb anferth i'r holl glwb. Dyna sy'n allweddol ar gyfer llwyddiant - sicrhau fod pobl yn caru'r clwb ac yn fodlon gwneud eu gorau drosto.

Bydd ffawd y clwb yn dibynnu'n drwm ar berfformiadau cartref. Mae Stadiwm Marston's angen bod yn gaer - doedd ef sicr ddim yn hynny y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd gormod o ddibyniaeth ar Gareth Phillips a Chris Hartland y tymor diwethaf, ac er fy mod yn disgwyl i'r ddau gario'r clwb ar adegau'r tymor hwn, mae angen i weddill y garfan gamu fyny i'r safon.

Y gobaith yw efelychu camp dosbarth 2011/12 drwy gael tymor cyfforddus yn y gynghrair a llwyddiant yn y gwpan. Nid yw hyn allan o gyrraedd y tîm, ond mae fy mhen yn dweud ein bod yn wynebu brwydr hir ag anodd yn erbyn mynd i lawr.

Am glwb fel un ni mae'n bennod fawr arall yn ein hanes cymharol fyr ac rydym am ei fwynhau, beth bynnag fydd y canlyniad.

Clwb blaenorol yn y gyfres: Prestatyn