Tîm Achub Mynydd Llanberis am arian cyhoeddus
- Cyhoeddwyd

Wrth i Dîm Achub Mynydd Llanberis ddathlu uwchraddio eu hadeilad, mae eu cadeirydd yn rhybuddio bod grwpiau ledled Cymru'n ei chael hi'n "anodd iawn" yn ariannol.
Mae arian yn brin ar gyfer cynnal gwasanaethau wedi i'r elusen wario £20,000 ar ail-wneud y ganolfan.
Yn ôl John Risdale mae criwiau achub yng Nghymru a Lloegr dan anfantais o'i gymharu â rhai yn yr Alban, sy'n derbyn cyllid gan eu llywodraeth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn darparu swm bach o arian trwy grantiau i gefnogi'r gwaith.
'Straen aruthrol'
Yn ogystal â moderneiddio'r ganolfan achub, mae'r tîm hefyd wedi buddsoddi mewn dwy Land Rover, sydd wedi cynyddu cyfanswm y gost i dros £100,000.
Ar ben y gost gychwynnol, byd rhaid talu am gostau parhaus hefyd, yn ôl John Risdale.
Dywedodd: "Mae'r pwysau sydd wedi bod a chynnydd sylweddol wedi bod ar nifer o ddigwyddiadau, yn arbennig i Eryri a'r Wyddfa fel pot mel felly - mae o'n straen aruthrol."
Mae'r tîm mae Mr Risdale yn arwain wedi achub yr un faint o bobl yn wyth mis cyntaf y flwyddyn hon a wnaethon nhw drwy gydol llynedd, a gyda gwaith ychwanegol daw mwy o gostau.
"Rydan ni yn ei ffeindio hi yn anodd iawn a bod yn onest ac mi fydden ni rŵan ein bod ni'n gorfod ffeindio arian o'r newydd yn ffeindio hi'n eitha' garw.
"Does dim dwywaith petai 'na arian yn dŵad o fan sefydlog fel syn digwydd yn yr Alban...
"Mae'r senedd yn yr Alban yn ariannu'r timau hynny i swm o rai cannoedd o filoedd tra ma' ryw bitw ffigyrau dani'n cael i'w rhannu yma yng Nghymru.
"Felly mi fydda 'na gais ac mi fydda 'na ystyriaeth i ofyn am ragor o adnoddau yn sicr."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod y gwaith neilltuol sy'n cael ei wneud gan ein timau achub mynydd yng Nghymru.
"Mae'r timau achub ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn beth bynnag yw'r amgylchiadau gan beryglu eu diogelwch eu hunain wrth weithio i achub eraill.
"Rydym yn darparu mymryn o arian mewn grantiau i wasanaethau Achub Mynydd Cymru er mwyn eu cefnogi yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud."