Josh Lewsey yw pennaeth rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi mai Josh Lewsey - oedd yn aelod o dîm Lloegr enillodd Gwpan y Byd yn 2003 - fydd pennaeth newydd rygbi yng Nghymru.
Bydd y cefnwr 36 oed a ymddeolodd o'r gamp yn 2009 yn dechrau ar ei swydd newydd ar ddiwedd mis Medi.
Mae ganddo gysylltiad â Chymru gan fod ei fam Mair Lewsey yn hanu o Gwmllynfell yng Nghwm Tawe.
Wrth ymuno â bwrdd gweithredol Undeb Rygbi Cymru bydd Lewsey'n gyfrifol am reoli strategol y gêm yng Nghymru ar bob lefel heblaw'r garfan ryngwladol.
Dywedodd Josh Lewsey: "Mae pawb sydd ym myd rygbi'n gwybod am angerdd Cymru gyfan tuag at y gamp, ac felly rwy'n ymwybodol iawn o'r cyfrifoldeb mawr rwyf wedi ei dderbyn.
"Mae'n her ac yn gyfle y byddaf yn ymroi'n llwyr iddo. Y prif beth yn fy marn i yw'r cydbwysedd rhwng canolbwyntio ar gemau cymunedol a gemau'r elît mewn modd sy'n sefydlu platfform cynaliadwy i rygbi yng Nghymru yn y tymor hir."
Enillodd Lewsey 55 o gapiau i Loegr, ac fe chwaraeodd i'r Llewod mewn tair gêm brawf.
Yn ystod ei yrfa, fe chwaraeodd yn bennaf i glwb Wasps gan gynnwys y tair blynedd rhwng 2002-2005 pan oedd Warren Gatland yn gyfarwyddwr rygbi yno.
Mae'n olynu Joe Lydon yn y swydd, a dywedodd prif weithredwr URC, Roger Lewis:
"Mae Josh yn ymuno â ni mew cyfnod lle mae'r gêm ryngwladol yng Nghymru yn eithriadol o gryf, ac mae e'n gwybod ein bod yn benderfynol o ymestyn y cryfder yna drwy'r byd rygbi yng Nghymru.
"Mae Josh yn arbennig o benderfynol o wneud gwahaniaeth i rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru, yn yr ysgolion yn ogystal â'r clybiau."