Grŵp anodd i Abertawe yn Ewrop
- Cyhoeddwyd

Daeth yr enwau o'r het ar gyfer rownd y grwpiau yng Nghynghrair Europa ac mae Abertawe mewn grŵp anodd.
Llwyddodd yr Elyrch i sicrhau eu lle yn y rownd er iddyn nhw golli ail gymal eu gêm yn erbyn Petrolul Ploiesti nos Iau, gan ennill o 6-3 ar gyfanswm goliau dros y ddau gymal.
Bydd Abertawe yn Grŵp A ac yn herio Valencia o Sbaen, Kuban o Rwsia a St Gallen o'r Swistir.
Mae Valencia wedi ennill pencampwriaeth Sbaen chwe gwaith a Chwpan Sbaen saith gwaith. Maen nhw hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ddwywaith.
Newydd ennill dyrchafiad o ail adran y Swistir y mae St Gallen ond nhw yw'r clwb pêl-droed hynaf yn y wlad.
Clwb sy'n chwarae yn Krasnodar ar gyrion Moscow yn Rwsia yw Kuban. Fe orffennon nhw'r tymor diwethaf yn bumed yn y brif adran.
Yn sicr, fe fydd Michael Laudrup yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Valencia gan iddo fod yn rheolwr yn Sbaen am sawl tymor.
Bydd y ddau glwb uchaf yn y 12 grŵp yn mynd ymlaen i rownd y 32 olaf ynghyd â'r clybiau sy'n gorffen yn drydydd yn eu grwpiau yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Trefn y gemau
Bydd y gêm anoddaf yn gyntaf i'r Elyrch wrth iddyn nhw deithio i Valencia ar Fedi 19 cyn dwy gêm ar y Liberty wedi hynny. Yna taith i Rwsia cyn i Valencia ddod i Abertawe, a'r gêm olaf yn y grŵp fydd y daith i'r Swistir.
Medi 19 - Valencia (o.c.)
Hydref 3 - St.Gallen (g)
Hydref 24 - Kuban Krasnodar (g)
Tachwedd 7 - Kuban Krasnodar (o.c.)
Tachwedd 28 - Valencia (g)
Rhagfyr 12 - St Gallen (o.c.)
Straeon perthnasol
- 29 Awst 2013
- 22 Awst 2013