Golff: Siom enfawr i Liam Bond
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd Liam Bond ddiwrnod i'w anghofio yn nhrydedd rownd Pencampwriaeth Agored Cymru ar gwrs y Celtic manor yng Nghasnewydd.
Roedd y Cymro ar y blaen ar ddechrau'r diwrnod yn dilyn sgorio 69 a 68 yn ddwy rownd gyntaf am gyfanswm oedd bum ergyd yn well na'r safon.
Ond roedd y pwysau o fod ar y blaen yn amlwg yn dweud ar Bond, ac er iddo beidio ildio ergyd yn y pum twll cyntaf fe ddiflannodd ei obeithion wedi hynny.
Roedd eisoes wedi ildio dwy ergyd ar y naw twll cyntaf, ond yna ar y deuddegfed twll fe gymrodd SAITH ergyd i fynd â'i gyfanswm i +1.
Er iddo gael pluen ar y 15fed, fe ildiodd ergydion pellach tua diwedd y rownd a phrin iawn yw'r cyfle iddo ddychwelyd i'r brig erbyn prynhawn Sul.
Ymhlith y ceffylau blaen fe welwyd rowndiau da gan y ddau Ffrancwr Thomas Levet a Gregory Bourdy i adael y ddau yn gydradd ail bedair ergyd yn well na'r safon.
Ond yr Americanwr Peter Uihlein oedd yn rheoli gyda rownd o 67 i fynd â'i gyfanswm i saith ergyd yn well na'r safon, a thair ergyd ar y blaen i'r gweddill.
Cafodd yr unig Gymro arall sy'n dal yn y gystadleuaeth, Rhys Enoch, rownd o 73 i'w adael gyda chyfanswm sydd dair ergyd dros y safon.