Chwilio am dystion wedi damwain farwol ger Y Porth
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr wedi marw wedi i gar ei daro yn y Rhondda.
Digwyddodd y ddamwain pan oedd yn cerdded ar hyd Heol Dyffryn Elái ger Y Porth nos Iau am 9.40pm.
Roedd y Seat Ibiza brown yn teithio o Drethomas i Goed Elái a'r cerddwr yn gwisgo top du a jîns glas.
Aed ag e i'r ysbyty lle cyhoeddwyd ei fod wedi marw.
Dywedodd yr heddlu, sy'n chwilio am dystion, fod y gyrrwr yn helpu'r heddlu gyda'u hymholiadau.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.