Problemau parcio mewn safle prydferthwch

  • Cyhoeddwyd
RhaeadrFfynhonnell y llun, Nick Rees
Disgrifiad o’r llun,
Mae nifer fawr o ymwelwyr yn dod i Bontneddfechan i weld y rhaeadrau yn yr ardal.

Mae cymuned ym Mannau Brycheiniog wedi ffurfio grŵp gweithredu newydd, i geisio delio gyda diffyg llefydd parcio oherwydd niferoedd uchel o ymwelwyr.

Mae Pontneddfechan mewn ardal sydd yn adnabyddus am rhaeadrau, ac mae'n denu nifer fawr o deuluoedd a grwpiau i ymweld.

Mae cadeirydd y grŵp yn honni fod pobl leol yn poeni am symud eu ceir o'u cartrefi ar benwythnosau, oherwydd y perygl o golli'r lle parcio.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Powys hefyd yn rhan o'r grŵp, sydd yn edrych ar nifer o opsiynau all wella'r sefyllfa.

Diffyg lle

Dywedodd cadeirydd y grŵp, a chynghorydd sir Powys David Thomas nad oedd y pentref yn erbyn ymwelwyr, ond eu bod eisiau rheoli problemau parcio, yn enwedig ar benwythnosau.

Dywedodd Mr Thomas bod tri maes parcio yn yr ardal, ond bod lle yn gyfyng.

"Dros y blynyddoedd mae poblogrwydd yr ardal wedi cynyddu, yn rhannol oherwydd y label Gwlad y Rhaeadrau sydd wedi ei roi yma.

"Ond mae hynny yn golygu bod diffyg llefydd parcio, ac mae trigolion yn fwy amharod i adael eu cartrefi ar benwythnosau oherwydd maen nhw'n poeni na fydd lle i'w ceir pan ddaw nhw yn ôl."

Dywedodd Mr Thomas bod ymwelwyr yn tueddu i barcio tu allan i gartrefi pan fo meysydd parcio yn llenwi.

Opsiynau

Disgrifiad o’r llun,
Mae Parc Cenedlaethol y Bannau wedi gaddo i weithio i wella problemau parcio yr ardal

Bydd y grŵp gweithredu yn trafod nifer o opsiynau gwahanol, gan gynnwys cyfyngiadau ar barcio neu adeiladu maes parcio newydd, pan fydd y grŵp yn cwrdd ym mis Hydref.

"Nid yw pobl Pontneddfechan yn erbyn ymwelwyr, ond mae angen cael cydbwysedd," ychwanegodd Mr Thomas.

Mewn cyfarfod gyda phobl leol, mae Parc Cenedlaethol y Bannau wedi cytuno i gydweithio gydag awdurdodau eraill i wella'r sefyllfa.

"Cafodd ei gytuno bod gwasanaethau lleol yn cael eu hymestyn ar adegau ym Mhontneddfechan - ar draul pobl leol weithiau," meddai Prif Weithredwr y Parc, John Cook.

"Beth ddaeth o'r cyfarfod oedd penderfyniad i weithio gyda'n gilydd i ddatrys y problemau yma."