1,000 o bysgod wedi marw yn Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd
Mae dros 1,000 o bysgod marw wedi cael eu darganfod yn Nant Olwy ger Llan-soe yn Sir Fynwy.
Daeth swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru o hyd i'r pysgod, oedd yn cynnwys brithylliaid, llyswennod a lampreiod, wedi adroddiadau gan y cyhoedd.
Llwyddodd y swyddogion i atal tarddiad tebygol y llygredd, ond roedd lefelau isel o ocsigen yn y dŵr yn parhau i achosi trafferthion i'r anifeiliaid.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i achos y digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn parhau i fonitro effaith y digwyddiad ar yr amgylchedd ac yn awyru'r nant i sicrhau nad oes mwy o bysgod yn marw.
"Byddwn yn cadw golwg agos ar yr afon dros y dyddiau nesaf i sicrhau bod lefelau ocsigen yn ddigon uchel.
"Rydym yn annog y cyhoedd i roi gwybod am unrhyw achosion tebyg yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- 28 Awst 2013
- 20 Awst 2013